
Ein Stori
Fe wnaethon ni sefydlu Watch Africa yn 2013 fel Gŵyl Ffilmiau Affricanaidd gyntaf Cymru. Ers hynny, rydym wedi trawsnewid i fod yn ddarparwr cynhyrchu ac ymgynghori sefydledig.
Rydym yn adeiladu pontydd diwylliannol cynaliadwy a gwydn rhwng y DU, Affrica a’r gymuned Diaspora byd-eang. Rydym yn creu profiadau sy’n effeithiol, yn gynhwysol ac yn ymgysylltu â heriau ein hoes. Trwy adeiladu pontydd, rydym yn meithrin sgyrsiau, dysgu a llawenydd ac rydym gyda’n gilydd, yn archwilio ein gorffennol, ac yn siapio ein presennol a’n dyfodol.
The Team

Fadhili Maghiya
Chief Executive Officer

Dr. Sarah Younan
Creative Director

Nuno Mendes
Community Engagement Lead

Paskaline Jebet
Film Festival Producer

Angelique Umuhoza
Finance and Human Resources
![Canopy - umbrella tubes [Recovered]-04](https://neiked.co.tz/watch-africa/wp-content/uploads/2025/02/Canopy-umbrella-tubes-Recovered-04.png)
Ndotenyin Akang
Film Specialist
Ein Cenhadaeth
Yn Watch Africa, ein nod yw adeiladu pontydd diwylliannol cynaliadwy rhwng Cymru, Affrica a’r gymuned Diaspora byd-eang. Ein nod yw cynnig profiadau cynhwysol, o ansawdd uchel sy’n mynd i’r afael â heriau cyfoes ac sy’n meithrin undod.
Ein Gweledigaeth
Ein gweledigaeth yw uno Cymru, Affrica, a’r gymuned Diaspora Affricanaidd Byd-eang trwy gyfrwng Diwylliant a’r Celfyddydau. Rydym yn gwneud ein gorau glas i greu cysylltiadau sy’n dathlu amrywiaeth, creadigrwydd, a phrofiadau a rennir.
Ein Hamcanion
Mae ein nodau, sy’n seiliedig ar Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol, yn arwain ein gwaith. Rydym yn hyrwyddo cynwysoldeb, yn hyrwyddo natur, yn dathlu diwylliant ac yn harneisio celf fel adnodd ar gyfer newid cadarnhaol. Rydym yn meithrin ymddiriedaeth, parch a dealltwriaeth mewn cysylltiadau diwylliannol.